Privacy policy
- Mae Idox Software Limited yn darparu gwasanaethau a meddalwedd i awdurdodau lleol yn y Deyrnas Unedig.
- Mae'r wefan hon yn rhan o wasanaeth i alluogi'r Swyddog Cofrestru Etholiadol ym mhob Swyddfa Cofrestru Etholiadol i gyflawni eu gofyniad cyfreithiol i geisio ymateb gan eiddo preswyl yn eu hardal, er mwyn pennu pa breswylwyr sy'n gymwys i gofrestru i bleidleisio.
- Bydd Idox yn trosglwyddo'r data a gesglir ar y wefan hon i'r Swyddfa Cofrestru Etholiadol berthnasol er mwyn caniatáu iddynt gyflawni eu gofyniad cyfreithiol. Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’r data a gesglir at ddibenion ystadegol, i anfon gohebiaeth yn ymwneud â’r defnydd o’r wefan, ac i fonitro a gwella perfformiad y gwasanaeth. Ni fyddwn yn defnyddio data personol o’r gwasanaeth hwn at unrhyw ddiben arall.
- Byddwn yn gofalu am wybodaeth bersonol yn ddiogel yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol amdanoch chi nac unrhyw wybodaeth bersonol y gallech chi ei darparu am bobl eraill i unrhyw un arall nac i sefydliad arall oni bai bod yn rhaid gwneud hynny yn ôl y gyfraith.
- Y sail gyfreithlon i gasglu’r wybodaeth yn y ffurflen hon yw ei bod yn angenrheidiol er mwyn perfformio tasg a gyflawnir er lles y cyhoedd ac wrth ymarfer awdurdod swyddogol a roddwyd i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol fel y nodwyd yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a’r rheoliadau cysylltiedig.
-
Mae rhai neu bob un o’r canlynol yn fathau o ddata a gesglir drwy’r wefan hon -
- cyfenw, enw cyntaf
- cyfeiriad personol
- cyfeiriad e-bost personol
- rhif ffôn personol
- dyddiad geni
- cenedligrwydd
- cod adnabod ar gyfer cysylltiad (gair mewngofnodi, cyfrinair, ac ati)
- Cod adnabod dyfeisiau (cyfeiriad IP, ac ati)
- gwybodaeth nodi amser (logiau ac ati)
- Rhif Yswiriant Gwladol
- Tras hiliol neu ethnig (arolwg dewisol)
- Mae data personol yn cael ei ddileu o fewn dau fis i ddiwedd y gwasanaeth bob blwyddyn. Mae cau'r gwasanaeth yn ymwneud â'r amser y mae'r Swyddfa Cofrestru Etholiadol berthnasol wedi ein cynghori i beidio â derbyn unrhyw ymatebion pellach drwy'r gwasanaeth.
- Mae Idox yn gweithredu fel y Prosesydd Data ar ran y Swyddog Cofrestru Etholiadol (sef y Rheolydd Data) ym mhob Swyddfa Cofrestru Etholiadol berthnasol, ac mae'r data a gesglir yn ystod y Canfas gan wefan elecreg.co.uk yn cael ei drosglwyddo iddynt. Cysylltwch â'ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol berthnasol os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach. Os nad ydych yn siŵr sut i gysylltu â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol, cyfeiriwch at wefan GOV.UK: https://www.gov.uk/contact-electoral-registration-office. Os hoffech gysylltu â ni yn benodol ynglŷn â storio data personol, cysylltwch â ni drwy e-bost yn: privacy@idoxgroup.com, drwy ein ffonio ar +44 333 011 1671, neu drwy ysgrifennu at y Data Protection Officer, Idox Software, Unit 5, Woking 8, Forsyth Road, Woking, Surrey GU21 5SB.
- Bydd Idox yn caniatáu i staff sydd wedi ei hyfforddi yn unig i brosesu data a bydd yn sicrhau y cedwir y data mewn amgylchedd diogel.
- NI fydd Idox yn defnyddio isgontractwyr wrth brosesu data.
Idox Data Protection Officer
Idox, Unit 5, Woking 8, Forsyth Road, Woking, Surrey, GU21 5SB.
privacy@idoxgroup.com
© Idox plc